เรียนต่ออังกฤษ สหราชอาณาจักรคณะสาขาวิชา Bangor University School of Education (PGCE)59102390 : IDP Hotcourses-Thailand

Addysg Gorfforol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

อังกฤษ สหราชอาณาจักร

3

ฉันจะได้เรียนเกี่ยวกับ

UCAS Code: 3D3Y**TAR Uwchradd - Addysg Gorfforol (gyda SAC)**Ysbrydolwch genedlaethau o blant a phobl ifanc i fyw bywyd iach a heini trwy gydol eu hoes ac i danio angerdd am chwaraeon a gweithgaredd corfforol trwy ddilyn ein rhaglen TAR Uwchradd Addysg Gorfforol. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu ac yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu fel athro Addysg Gorfforol, creadigol ac arloesol.Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Addysg Gorfforol rhagorol, ond hefyd yn athro Iechyd a Lles, trwy roi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill o’r cwricwlwm Iechyd a Lles, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru. **Pam astudio gyda ni?** - Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Addysg Gorfforol nag yma ym Mangor, sy'n falch o'i hanes llwyddiannus a thraddodiad o ddarparu addysg athrawon Addysg Gorfforol. Bydd gennych fynediad nid yn unig i amrywiaeth eang o chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chyfleoedd mewn addysg, ond hefyd i weithgareddau awyr agored ac antur rhagorol. Mae’r agwedd hon yn unigryw i Fangor, lle rydym nid yn unig yn darparu cyfleoedd dysgu allgyrsiol rhagorol yma yng Ngogledd Cymru, ond hefyd ymhellach i ffwrdd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd gennych fynediad at adnoddau a chyfleusterau chwaraeon a gweithgareddauau corfforol o’r radd flaenaf, yn ogystal â’r adnoddau o fewn ardal naturiol hardd sydd gennym ym Mangor – mynyddoedd, llynnoedd, afonydd a thraethau. Bydd hyn i gyd yn eich ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg.- Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC). - Cewch gyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cewch hefyd gefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith. Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.

คอร์สนี้อยู่ในคณะอะไร ?

School of Education (PGCE)

ตัวเลือกคอร์ส

เต็มเวลา (1 ปี)

ค่าเรียน
£19,000.00 (฿ 842,124) ต่อปี
ค่าธรรมเนียมปกติ

นี่เป็นตัวเลขโดยเฉลี่ย กรุณาติดต่อสถาบันเพื่อเชคความถูกต้อง

เริ่มเรียน

กันยายน 2026

สถานที่

Main Site

Bangor University,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG, Wales, United Kingdom

กรุณาเช็คระดับ IELTSของคอร์ส ที่คุณต้องการสมัครให้ถูกต้อง

ชอบมหาวิทยาลัยนี้

Product of

สนใจข้อมูลเรียนต่อสุดอินไซด์?

ฟังรีวิวคอร์สคณะมหาลัย ทิปส์เรียนต่อ จากนักเรียนตัวจริงเสียงจริง

เข้าดู
cta banner image

ข้อมูลน่าสนใจ Bangor University

สิ่งอำนวยความสะดวกประจำหลักสูตรอันดีเยี่ยมและคณาจารย์ที่รักการสอนของ Bangor จะช่วยให้นักศึกษามีความสุขกับหลักสูตรการเรียนที่ตรงความต้องการและมีคุณค่า

  • ทางเลือกหลักสูตรอันหลากหลายที่ได้รับการยอมรับ
  • สิ่งอำนวยความสะดวกมากมายที่ออกแบบให้เหมาะกับแต่ละคณะวิชา
  • บริการช่วยเหลือที่ดีเยี่ยมสำหรับนักศึกษาทุกคน
  • ทำเลที่ตั้งที่สวยงามพร้อมการเดินทางไปเมืองใหญ่ได้อย่างง่ายดาย

ติดต่อเรื่องเรียนต่อ