เรียนต่ออังกฤษ สหราชอาณาจักรคณะสาขาวิชา Cardiff University School of Welsh54956782 : IDP Hotcourses-Thailand

Cymraeg a Cherddoriaeth - BA (Hons)

อังกฤษ สหราชอาณาจักร

2

ฉันจะได้เรียนเกี่ยวกับ

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Cherddoriaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r pynciau, boed y rheiny’n ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar.Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.Mae rhaglenni israddedig yr Ysgol Cerddoriaeth yn hyblyg ac yn heriol, gan roi cyfle ichi arbenigo a datblygu eich diddordebau eich hun ochr yn ochr â chael eich trwytho ym meysydd estheteg cerddoriaeth, dadansoddi, cyfansoddi, ethnogerddoreg, hanes cerddoriaeth, a pherfformiad. Mae lleoliad yr ysgol yn ychwanegu’n fawr at ei hapêl ar gyfer selogion cerddoriaeth, gan fod Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer astudio cerddoriaeth yn y DU: mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol, Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynychu ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.**Nodweddion nodedig**- y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle- modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith- ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa- y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa- y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol- y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil- y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn- mae'r hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, gan gynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol.- y modiwl Busnes Cerddoriaeth sy’n cynnig lleoliad gwaith byr- cyfleoedd dysgu fel gweithdai cyfansoddi, y dosbarthiadau meistr ar berfformio, cyfres cyngherddau’r Brifysgol, darlithoedd John Bird gan academyddion gwadd, ynghyd â’r sgyrsiau gyrfaoedd sy’n cynnig cyfleoedd i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol sy’n weithredol ym myd cerddoriaeth

คอร์สนี้อยู่ในคณะอะไร ?

School of Welsh

ตัวเลือกคอร์ส

เต็มเวลา (3 ปี)

ค่าเรียน
£24,700.00 (฿ 1,094,761) ต่อปี
Living cost -The minimum cost of living as recommended by UKVI for studying outside London is 1023 per month.

ค่าธรรมเนียมปกติ

นี่เป็นตัวเลขโดยเฉลี่ย กรุณาติดต่อสถาบันเพื่อเชคความถูกต้อง

เริ่มเรียน

กันยายน 2026

สถานที่

Cardiff University - Cathays Park Campus

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

เต็มเวลา (3 ปี)

ค่าเรียน
£24,700.00 (฿ 1,094,761) ต่อปี
ค่าธรรมเนียมปกติ

นี่เป็นตัวเลขโดยเฉลี่ย กรุณาติดต่อสถาบันเพื่อเชคความถูกต้อง

เริ่มเรียน

กันยายน 2026

สถานที่

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

กรุณาเช็คระดับ IELTSของคอร์ส ที่คุณต้องการสมัครให้ถูกต้อง

ชอบมหาวิทยาลัยนี้

Product of

สนใจข้อมูลเรียนต่อสุดอินไซด์?

ฟังรีวิวคอร์สคณะมหาลัย ทิปส์เรียนต่อ จากนักเรียนตัวจริงเสียงจริง

เข้าดู
cta banner image

ข้อมูลน่าสนใจ Cardiff University

หลักสูตรของ Cardiff University ดำเนินการสอนโดยคณาจารย์ระดับชั้นนำ ผู้เรียนจะได้รับประโยชน์จากสิ่งอำนวยความสะดวกด้านการเรียนเฉพาะทางอันทันสมัย

  • มหาวิทยาลัยในกลุ่ม Russell Group แห่งเดียวของเวลส์
  • มหาวิทยาลัยระดับท็อป 180 (QS, 2027)
  • นักศึกษานานาชาติ 5,000 คน
  • รับประกันที่พักสำหรับนักศึกษานานาชาติที่มีคุณสมบัติเหมาะสม

ติดต่อเรื่องเรียนต่อ