เรียนต่ออังกฤษ สหราชอาณาจักรคณะสาขาวิชา Bangor University School of Welsh56442086 : IDP Hotcourses-Thailand

Cymraeg Proffesiynol (Professional Welsh) - BA (Hons)

อังกฤษ สหราชอาณาจักร

2

ฉันจะได้เรียนเกี่ยวกับ

Dyma gwrs sy’n ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol o ddydd i ddydd. A hoffech weithio mewn meysydd fel y diwydiannau creadigol a’r sector treftadaeth, darlledu a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cyfieithu, cynllunio ieithyddol a gweinyddu cyhoeddus? Bydd y cwrs hwn yn fan cychwyn ardderchog i chi anelu at yrfa yn un o’r meysydd hyn. Mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yng ngogledd-orllewin Cymru yn fwy nag unrhyw le arall yn y byd, ac mae hynny’n cynnig cyfleoedd heb eu hail i wella eich hyfedredd yn y defnydd proffesiynol o’r Gymraeg. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith i ddibenion proffesiynol a galwedigaethol. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol? Derbynnir myfyrwyr o gefndiroedd iaith gyntaf ac ail iaith i ddilyn y cwrs hwn. Mae’n ddilyniant naturiol hefyd i fyfyrwyr a ddilynodd y flwyddyn sylfaen Cymraeg i Ddechreuwyr. Mae’n addas yn ogystal i rai a gyrhaeddodd lefel hyfedredd mewn Cymraeg, e.e. drwy Gyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.

คอร์สนี้อยู่ในคณะอะไร ?

School of Welsh

ตัวเลือกคอร์ส

เต็มเวลา (3 ปี)

ค่าเรียน
£18,000.00 (฿ 797,802) ต่อปี
Accommodation -Rent for premium studios £8,580.71 (approx. £205 per week) International Experience Year or a Placement Year - 1350

ค่าธรรมเนียมปกติ

นี่เป็นตัวเลขโดยเฉลี่ย กรุณาติดต่อสถาบันเพื่อเชคความถูกต้อง

เริ่มเรียน

ประมาณ กันยายน 2027

สถานที่

Bangor University - Main Campus

Bangor , ,,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG, Wales, United Kingdom

เต็มเวลา (3 ปี)

ค่าเรียน
ไม่มีข้อมูล

กรุณาตรวจสอบข้อมูลกับสถาบันโดยตรง

เริ่มเรียน

ประมาณ กันยายน 2027

สถานที่

Main Site

Bangor University,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG, Wales, United Kingdom

กรุณาเช็คระดับ IELTSของคอร์ส ที่คุณต้องการสมัครให้ถูกต้อง

ชอบมหาวิทยาลัยนี้

Product of

สนใจข้อมูลเรียนต่อสุดอินไซด์?

ฟังรีวิวคอร์สคณะมหาลัย ทิปส์เรียนต่อ จากนักเรียนตัวจริงเสียงจริง

เข้าดู
cta banner image

ข้อมูลน่าสนใจ Bangor University

สิ่งอำนวยความสะดวกประจำหลักสูตรอันดีเยี่ยมและคณาจารย์ที่รักการสอนของ Bangor จะช่วยให้นักศึกษามีความสุขกับหลักสูตรการเรียนที่ตรงความต้องการและมีคุณค่า

  • ทางเลือกหลักสูตรอันหลากหลายที่ได้รับการยอมรับ
  • สิ่งอำนวยความสะดวกมากมายที่ออกแบบให้เหมาะกับแต่ละคณะวิชา
  • บริการช่วยเหลือที่ดีเยี่ยมสำหรับนักศึกษาทุกคน
  • ทำเลที่ตั้งที่สวยงามพร้อมการเดินทางไปเมืองใหญ่ได้อย่างง่ายดาย

ติดต่อเรื่องเรียนต่อ