Mae ein cwrs TAR Uwchradd Drama yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Mae’r rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) hon yn darparu llwybr i Statws Athro Cymwysedig (SAC) gyda chyfuniad o hyfforddiant dan arweiniad y brifysgol a lleoliadau dan arweiniad ysgolion. Cewch ddatblygu eich sgiliau mewn addysgeg ac arfer adfyfyriol, gan ganolbwyntio ar addysg ddrama ar draws yr ystod oed uwchradd. Cewch brofiad o amgylcheddau addysgu amrywiol drwy leoliadau trefol a gwledig, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae profiad addysgu proffesiynol (PAP) a chymorth mentoriaid yn ganolog, gan sicrhau hyfforddiant cynhwysfawr.Mae’r rhaglen yn pwysleisio pwysigrwydd drama wrth helpu pobl ifanc i fod yn ddinasyddion uchelgeisiol, creadigol a moesegol. Mae cymorth ariannol ar gael drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau.