เรียนต่ออังกฤษ สหราชอาณาจักรคณะสาขาวิชา Cardiff University Cardiff Business School57053496 : IDP Hotcourses-Thailand

Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg a Blwyddyn ar Leoliad Gwaith Proffesiynol - BSc (Hons)

อังกฤษ สหราชอาณาจักร

ฉันจะได้เรียนเกี่ยวกับ

Ar ein rhaglen (BSc) Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg a Blwyddyn ar Leoliad Gwaith Proffesiynol, byddwch yn archwilio'r ffyrdd amrywiol y mae sefydliadau'n ymateb i ofynion busnes cyfoes sy'n newid yn gyflym. Mae ein pwyslais ar reoli cynaliadwy, ynghyd â'r egwyddorion busnes craidd sy'n bwysig i ddiwydiant byd-eang, yn golygu y byddwch wedi'ch paratoi'n dda i arwain sefydliadau'n llwyddiannus mewn byd sy'n fwyfwy cymhleth, digidol, a chydgysylltiedig. Wrth astudio’r Gymraeg byddwch yn meithrin sgiliau Cymraeg lefel uchel, ynghyd â dealltwriaeth drylwyr o’i lle yn y Gymru gyfoes.  Yn ogystal â sgiliau allweddol o ran rheoli, cyfrifyddu a marchnata, byddwch hefyd yn magu’r sgiliau gwneud penderfyniadau amhrisiadwy y mae eu hangen ar gyfer arfarnu, datblygu, gweithredu a gwerthuso gweithrediadau effeithiol. Byddwch yn meithrin y feddylfryd entrepreneuraidd sy’n ofynnol i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac amgylcheddol, yn ogystal â sgiliau a galluoedd personol proffesiynol hanfodol. Drwy fodiwlau dewisol, byddwch yn teilwra'ch gradd i'ch diddordeb unigol a'ch uchelgais o ran gyrfa. Drwy ein partneriaethau â’r diwydiant, byddwch chi’n gallu ymgysylltu â heriau busnes yn y byd go iawn, gweithgareddau a arweinir gan gyflogwyr a phrosiectau cymhwysol i gysylltu eich dysgu ag arferion cyfredol y diwydiant. Ym mlwyddyn 3 byddwch yn camu allan o'r ystafell ddosbarth ac i'r byd go iawn gyda'ch Blwyddyn Lleoliad Gwaith Proffesiynol – rôl â thâl i ategu eich astudiaethau academaidd a rhoi hwb pellach i'ch rhagolygon o ran cyflogadwyedd. Mae'r Flwyddyn Lleoliad Gwaith Proffesiynol yn gyfle gwych i roi'r wybodaeth rydych chi wedi'i meithrin ar waith: byddwch chi'n mynd i'r afael â heriau busnes go iawn, yn magu profiad ymarferol, ac yn meithrin y math o sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.   Byddwch yn graddio o'r rhaglen yn barod i ffynnu ym myd busnes, gyda'r sgiliau y mae arnoch eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth hyderus a strategol i sicrhau llwyddiant cynaliadwy. Byddwch hefyd wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. **Nodweddion unigryw’r rhaglen** **Ein harbenigwyr ni, eich athrawon chi** \Dysgwch gan gyfadran o academyddion o'r radd flaenaf yn ein hysgol fywiog a chynhwysol **Canolbwyntio ar gyflogadwyedd** \Datblygu sgiliau parod ar gyfer gyrfa mewn rheoli, marchnata a chadwyni cyflenwi drwy ddysgu ymarferol. **Yn gysylltiedig â diwydiant** \Manteisiwch ar brofiadau o’r byd go iawn drwy ddarlithoedd gan arbenigwyr yn y diwydiant, lleoliadau gwaith, a chyfleoedd astudio byd-eang. **Cyfrifol, moesegol, a chynaliadwy** \Datblygwch eich meddylfryd moesegol a'ch ymwybyddiaeth o gyfrifoldeb cymdeithasol yn barod i ddod yn arweinydd busnes. **Cyfuniad unigryw o fusnes a’r Gymraeg** Dewch i wella eich dealltwriaeth o'r Gymraeg a diwylliant Cymru yng nghyd-destun rheoli busnes.**Blwyddyn ar leoliad gwaith â thâl**  \Gwellwch eich rhagolygon o ran eich gyrfa gyda blwyddyn o brofiad mewn diwydiant, gan roi damcaniaeth yr ystafell ddosbarth ar waith yn y gweithle.

คอร์สนี้อยู่ในคณะอะไร ?

Cardiff Business School

ตัวเลือกคอร์ส

เต็มเวลา (4 ปี)

ค่าเรียน
£25,450.00 (฿ 1,128,003) ต่อปี
ค่าธรรมเนียมปกติ

นี่เป็นตัวเลขโดยเฉลี่ย กรุณาติดต่อสถาบันเพื่อเชคความถูกต้อง

เริ่มเรียน

กันยายน 2027

สถานที่

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

กรุณาเช็คระดับ IELTSของคอร์ส ที่คุณต้องการสมัครให้ถูกต้อง

ชอบมหาวิทยาลัยนี้

Product of

สนใจข้อมูลเรียนต่อสุดอินไซด์?

ฟังรีวิวคอร์สคณะมหาลัย ทิปส์เรียนต่อ จากนักเรียนตัวจริงเสียงจริง

เข้าดู
cta banner image

ข้อมูลน่าสนใจ Cardiff University

หลักสูตรของ Cardiff University ดำเนินการสอนโดยคณาจารย์ระดับชั้นนำ ผู้เรียนจะได้รับประโยชน์จากสิ่งอำนวยความสะดวกด้านการเรียนเฉพาะทางอันทันสมัย

  • มหาวิทยาลัยในกลุ่ม Russell Group แห่งเดียวของเวลส์
  • มหาวิทยาลัยระดับท็อป 180 (QS, 2027)
  • นักศึกษานานาชาติ 5,000 คน
  • รับประกันที่พักสำหรับนักศึกษานานาชาติที่มีคุณสมบัติเหมาะสม

ติดต่อเรื่องเรียนต่อ